Abdulrahim Abby Farah
Diplomydd a gwleidydd Somali oedd Abdulrahim Abby Farah (Arabeg: عبد الرحيم آبي فرح) 22 Hydref 1919 – 14 Mai 2018). Bu'n gwasanaethu fel Cynrychiolydd Parhaol o Somalia i'r Cenhedloedd Unedig, ac fel y Llysgennad o Somalia i Ethiopia.[1] Ef oedd cadeirydd y sefydliad anllywodraethol PaSAGO. Bywyd personolGanwyd Farah ar 22 Hydref 1919, yn y Barri, Cymru, ond mae'n hanu o is-lwyth Issa Musse yr Isaaq.[2][3] Ar gyfer ei addysg drydyddol, enillodd radd o Goleg y Brifysgol, Exeter a Prifysgol Rhydychen yn Lloegr. Roedd Farah yn briod gyda phump o blant.[4] GyrfaCychwynnodd Farah ei yrfa diplomyddol gyda gweinyddiaeth Ymddiriedolaeth Tiriogaeth Somaliland, ac ar ôl annibyniaeth, gyda llywodraeth sifil cynnar Gweriniaeth Somali.Gwasanaethodd mewn sawl swydd yno rhwng 1951 a 1961, gan gynnwys fel Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwybodaeth Somali. Rhwng 1961 a 1965, roedd Farah yn Llysgennad Somalia i Ethiopia. Bu'n gweithredu fel cynrychiolydd Somalia i Gomisiwn Economaidd y Cenhedloedd Unedig dros Affrica (ECA) yn 1962. Cynrychiolodd Farah y wlad hefyd yng nghyfarfodydd Cyngor y Gweinidogion o Sefydliad Undod Affricanaidd (OAU) yn 1964 a 1965. O 1965 i 1972, roedd Farah yn Cynrychiolydd Parhaol Somalia i'r Cenhedloedd Unedig yn Ninas Efrog Newydd. Ar yr un pryd gwasanaethodd fel y Cyfarwyddwr Cyffredinol dros dro yng Ngweinyddiaeth Materion Tramor Somalia yn 1966.[5] O 1969 i 1972, roedd Farah yn Gadeirydd Pwyllgor Arbennig yr UN yn Erbyn Apartheid, gan lywyddu dros sesiwn arbennig o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn 1972.[6] Roedd yn gweithredu fel Ysgrifennydd Cynorthwyol-Cyffredinol ar gyfer Cwestiynau Gwleidyddol Arbennig rhwng 1973 a 1978. Yn ogystal, gwasanaethodd Farah fel cynrychiolydd Somalia o fewn Cynghrair y Gwladwriaethau Arabaidd.[7] O 1979 hyd at 1990, roedd hefyd yn Is-ysgrifennydd-Cyffredinol ar gyfer Cwestiynau Gwleidyddol Arbennig . Yn 1998, helpodd Farah sefydlu y Bartneriaeth i Gryfhau Sefydliadau Affricanaidd ar lawr gwlad (PaSAGO). Ers hynny, gwasanaethodd fel cadeirydd y corff. Bu farw Farah ym mis Mai 2018 yn 98.[8] Cyfeiriadau
Dolenni allanol |