Alfred Gooding
Dyn busnes o Gymru oedd Dr. Alfred Joseph Gooding OBE LLB (Mawrth 1932 – 29 Ionawr 2018)[1][2], a adnabyddwyd fel "Alf" Gooding. Cafodd yrfa dros 50 mlynedd yn y diwydiant adeiladu a chyfarpar electronig.[3] Fe'i ganwyd yn Rhisga, yn fab i lowr. Yn y 1950au cychwynnodd gwmni Modern Building Wales Limited a adeiladodd 7,000 o dai ar draws Cymru.[4] Ei fenter mwyaf enwog oedd Catnic, cwmni a gydnabyddir am ddatblygu y capan dur (lintel) ar gyfer y diwydiant adeiladu.[5] Yn 1982, roedd ei gwmni mewn achos yn Nhy'r Arglwyddi, "Catnic Components Ltd v Hill & Smith Ltd". Bu Gooding yn gadeirydd CBI Cymru. Yn 2003, cychwynnodd ysgrifennu colofn wythnosol am fusnes yn y Western Mail.[6] Yn 2010 derbyniodd gymrodoriaeth gan Brifysgol Cymru, Casnewydd.[7] Yn 2007, trefnodd Gooding gais i brynu'r banc Northern Rock a oedd mewn trafferthion ariannol.[8] Yn 2015, fe ddinistriwyd ei dŷ yn Rhiwderyn ger Casnewydd gan dân. Roedd Gooding yn byw yno gyda'i wraig Lavinia a fe wnaethon nhw ddianc heb niwed.[9] Cyfeiriadau
|