Bill Maynard
Roedd Walter Frederick George Williams (8 Hydref 1928 – 30 Mawrth 2018),[1] a oedd yn cael ei adnabod dan ei enw llwyfan Bill Maynard, yn gomedïwr ac yn actor o Loegr. Bywyd personolGanwyd Maynard yn 5 Oak Cottages, Heath End, Farnham, Surrey, a mynychodd Ysgol Ramadeg Kibworth Beauchamp yn Swydd Gaerlŷr. Priododd Muriel Linnett ar 5 Tachwedd 1949, bu iddynt dau fab gan gynnwys y cerddor Martin Maynard Williams. Bu farw Muriel ym mis Mehefin 1983. Ar 4 Medi 1989 priododd Tonia Bern gweddw yr ymgeisydd am recordiau cyflymder Donald Cambell. Gyrfa fel perfformiwrDechreuodd fel perfformiwr amrywiol, gan gymryd ei gyfenw proffesiynol o fwrdd hysbysebu Maynard's Wine Gums[2], melysion poblogaidd ar y pryd. Bu ei ymddangosiad cyntaf ar y teledu ar Henry Hall’s Face the Music ar 12 Medi 1953[3]. Roedd yn rhan o'r tîm a gyflwynodd the One O'Clock Show ar gyfer Teledu Tyne Tees yn Newcastle (1959-64). Ymddangosodd yn nrama teledu Dennis Potter, Paper Roses (1971), am y diwrnod olaf ym mywyd gohebydd. Ymddangosodd yn nrama teledu Colin Welland, Kisses at Fifty (1973). Tua'r un pryd, bu Maynard yn gweithio gyda'r actor teledu a'r comedïwr Ronnie Barker yn "Football Blues" cafodd ei ddarlledu ar y teledu fel "Spanners Eleven". Ar ôl chware ran yn y bennod beilot yn 1974, bu'n serennu yn sitcom Teledu Yorkshire, Oh No, it's Selwyn Froggitt! (1976-78) gan chwarae rôl Selwyn y teitl. Darlledwyd y rhaglen am bedair cyfres. Bu hefyd yn gweithio i gwmni Yorkshire gan chware ran Fred Moffatt yn The Gaffer (1981-83). Yn y 1970au chwaraeodd Maynard rhannau bach ym mhump o ffilmiau'r gyfres Carry On, gan gynnwys Carry On Matron (1972) a Carry On Dick (1974). Roedd ganddo rôl ffilm fel Mr Hinchcliffe ffermwr yn Swydd Efrog yn It Shouldn't Happen to a Vet (1975). Ym mis Ebrill 1992, dychwelodd i gwmni Yorkshire i chwarae rhan Claude Jeremiah Greengrass yn y gyfres deledu boblogaidd Heartbeat gan aros yn y sioe hyd ddiwedd y gyfres ym mis Rhagfyr 2000, a'i gyfres olynol The Royal hyd 2003. Teledu a ffilm[4]
Gwybodaeth amgenRoedd Maynard yn gefnogwr brwd o Gategori Fformiwla 1 rasio ceir Stoc BriSCA, ac fe'i gwelwyd yn rheolaidd yn gwylio'r rasys yn Long Eaton, Stadiwm Caerlŷr a Stadiwm Coventry. Noddodd y gyrrwr Pete Doran (428) o Hinckley am flynyddoedd lawer. Recordiodd can doniol o'r enw o'r enw "Stock Car Racing is Magic!" cafodd ei ryddhau ym 1979[5]. Mae'r can yn dal i gael ei chwarae mewn cyfarfodydd car stoc. Roedd yn destun This Is Your Life ym 1974 pan gafodd ei gyflwyno efo'r llyfr coch gan Eamonn Andrews. Ysgrifenned dau hunangofiant The Yo-Yo Man ym 1975[6] a Stand Up...And Be Counted[7] ym 1997. GwleidyddiaethSafodd Maynard yn erbyn Tony Benn mewn isetholiad yn etholaeth Chesterfield ym 1984 fel ymgeisydd Llafur Annibynnol. Ei bwriad oedd dwyn rhywfaint o'r bleidlais Lafur er mwyn rhwystro ethol Benn. Bu'r ymgais yn aflwyddiannus a llwyddodd Benn i gadw'r sedd i Lafur, daeth Maynard yn bedwaredd[8]. Pe bai bwriad Maynard wedi llwyddo byddai'r ymgeisydd Ceidwadol wedi ennill. Yr ymgeisydd Ceidwadol oedd yr Athro Nick Bourne, a aeth ymlaen i fod yn arweinydd y grŵp Ceidwadol yng Nghynulliad Cymru o 1999 i 2011 MarwolaethYn ei flynyddoedd olaf bu Maynard yn byw efo anawsterau symud o ganlyniad i gael ei daro gan strociau lluosog. Bu farw yn yr ysbyty ar 30 Mawrth 2018, ychydig ar ôl cwympo oddi ar sgwter symudedd a thorri ei glun[9]. Cyfeiriadau
|