Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Ysgol gerddoriaeth wedi'i lleoli yng Nghaerdydd yw Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, neu'r Coleg Cerdd a Drama fel y'i gelwir fel arfer. Mae cyn-fyfyrwyr y coleg yn cynnwys Geraint Jarman, Hywel Gwynfryn a Sara Lloyd-Gregory. Hanes a disgrifiadSefydlwyd y Coleg ym 1949 fel Coleg Cerddoriaeth Caerdydd yng Nghastell Caerdydd, ond ers hynny mae wedi symud i adeiladau ar dir y castell ym Mharc Bute ger Prifysgol Caerdydd. Yn ddiweddarach, newidiodd ei enw i Goleg Cerdd a Drama Caerdydd, cyn derbyn y teitl Brenhinol yn Jiwbili Aur y Frenhines yn 2002, y bumed ysgol gerddoriaeth i dderbyn y teitl hwn. Ers agor y Coleg, rhoddwyd ei raddau gan Brifysgol Cymru ac yn 2004 daeth y Coleg yn rhan o'r brifysgol ffederal. Fodd bynnag, yn 2007, gadawodd y Coleg y Brifysgol a daeth yn sefydliad annibynnol unwaith eto. Bellach rhoddir eu graddau gan Brifysgol De Cymru.[1] Darpara'r coleg addysg a hyfforddiant yn y celfyddydau creadigol, gydag oddeutu dwy ran o dair o'i 550 o fyfyrwyr yn astudio cyrsiau sy'n ymwneud â cherddoriaeth, gyda'r gweddill yn astudio cyrsiau sy'n ymwneud â drama. Mae'n ysgol gerddoriaeth All-Steinway. Prin yw'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sy'n cael ei chynnig yn y Coleg ar hyn o bryd.[2] Cyrsiau israddedigMae'r Coleg yn cynnig graddau israddedig yn y meysydd canlynol:
Cyrsiau ôl-raddedigMae'r Coleg yn cynnig graddau ôl-raddedig yn y meysydd canlynol:
Cyn-fyfyrwyr
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|