Cymuned Ewropeaidd Glo a Dur
Sefydlwyd y Gymuned Ewropeaidd Glo a Dur (ECSC) ym 1951 gan Gytundeb Paris. Ei haelod-wladwriaethau oedd Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, Lwcsembwrg (gwledydd Benelux), Gorllewin yr Almaen, Ffrainc a'r Eidal. Pwrpas y gymuned oedd cydgyfrannu adnoddau glo a dur ei haelod-wladwriaethau er mwyn rhwystro rhyfel arall yn Ewrop. Fe'i cynlluniwyd gan Jean Monnet, gwas sifil ac economegydd o Ffrainc, a fe'i cyhoeddwyd gan Robert Schuman, gweinidog tramor Ffrainc. Roedd yr ECSC yn sylfaen i ddatblygiad y Gymuned Economaidd Ewropeaidd, a arweiniodd at y Gymuned Ewropeaidd ac, yn dilyn Cytundeb Maastricht, at yr Undeb Ewropeaidd. Roedd Cytundeb Paris yn ddilys am 50 mlynedd yn unig, ac felly daeth yr ECSC i ben ar 23 Gorffennaf 2002. Roedd y Gymuned Ewropeaidd yn etifeddu cyfrifoldebau ac asedau yr ECSC (cadarhawyd hyn gan brotocol i Gytundeb Nice). Llywyddion Uchel Awdurdod y Gymuned Ewropeaidd Glo a Dur, 1952-1967
Gweler hefyd
|