Disc a Dawn
Rhaglen gerddoriaeth oedd Disc a Dawn a gydnabyddir fel y rhaglen deledu pop Cymraeg cyntaf. Cynhyrchwyd y gyfres gan BBC Cymru.[1] Cynhyrchwyd gan Ruth Price bu hefyd yn gyfrifol, dan arweinyddiaeth Meredydd Evans, Pennaeth Adloniant Ysgafn y BBC yng Nghymru, am ddechrau rhaglen gerddoriaeth ysgafn Gymraeg flaenorol, Hob y Deri Dando ym 1964. Un o'r cyflwynwyr cynnar oedd Huw Jones.[2] Cyfansoddwyd cerddoriaeth agoriadol y rhaglen gan Meic Stevens.[3] Ymddangosodd nifer o artistiaid poblogaidd y cyfnod ar y rhaglen yn cynnwys Meic Stevens, Heather Jones, Iris Williams a'r Y Tebot Piws. Dilynwyd y gyfres gan y rhaglen Gwerin 74 a oedd yn adlewyrchu tyfiant cerddoriaeth werin yn y cyfnod.[4] Y rhaglen bop/roc nesaf i'w ddarlledu gan y BBC oedd Twndish yn 1977.[5] Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|