Cwmni theatr Gymraeg fu'n weithredol rhwng 1981 a 1994 oedd Hwyl a Fflag neu Cwmni Theatr Hwyl a Fflag. Roedd y cwmni wedi'i leoli ym Mangor, ac yn cynnal Gŵyl Ddrama flynyddol yn Theatr Gwynedd o 1987 gyda'r bwriad o gyflwyno gwaith newydd ac arbrofol gan ddramodwyr Cymraeg. Fe gollodd y cwmni eu nawdd ym 1994, a bu'n rhaid dod â'r cwmni i ben.
Cefndir
Sefydlwyd y cwmni gan nifer o actorion gan gynnwys Wyn Bowen Harris a Gwen Ellis ym 1981. Yn ogystal â chyflwyno dramâu newydd yn y Gymraeg, roedd y cwmni'n cyflwyno'r pantomeim Nadolig blynyddol, wedi i Gwmni Theatr Cymru ddod i ben ym 1984. Gwelwyd llwyfannu Go Fflamia! (1985/86), Jim Cro Crystyn (1986/87) a Codi Stêm (1987/88). Rhwng 1981 a 1991, cyflwynodd y cwmni 39 o gynyrchiadau prif lwyfan gan gyfanswm o 26 o awduron.[1] Dathlwyd pen-blwydd y cwmni yn ddeg oed gyda'r cynhyrchiad Hualau - "ein deugeinfed cynhyrchiad gan ein saithfed awdur ar hugain."[1]
"Polisi Hwyl A Fflag yw datblygu a chyflwyno'r gorau mewn ysgrifennu newydd i'r llwyfan, boed hynny ar ffurf dramâu newydd sbon neu addasiadau newydd o ddramâu sy'n bodoli eisioes. Tra'n cynnig adloniant theatrig safonol, ein nôd yw herio awduron a'r gynulleidfa i wynebu posibiliadau a problemau'r oes drwy ymdrin â phynciau cyfoes a pherthnasol."[1]
Ym 1992, penodwyd Angharad Tomos fel dramodydd preswyl cyntaf y cwmni.[2] "Gyda'r cyflwyniad heno [Tanddaearol] daw cyfle i lwyfannu drama newydd gan Awdur Preswyl cyntaf y Cwmni ac i gyhoeddi trothwy cyfnod anturus i Hwyl a Fflag," datganodd rhaglen y cynhyrchiad o ddrama Angharad Tanddaearol.
"Wedi deng mlynedd a mwy o gyflwyno dramâu newydd ac addasiadau mewn amrywiol ganolfannau led led y wlad bydd Hwyl a Fflag, wedi'r daith hon a Gŵyl Codi'r Hwyl 5, yn cymryd hoe o deithio'n genedlaethol am gyfnod er canolbwyntio ar ddatblygu cyfres o ddramâu newydd at y dyfodol. Trwy sefydlu 'Cwmni Parhaol' o artistiaid yn yr Hydref, a hynny am y tro cyntaf yn ein hanes, wele'r Cwmni'n mabwysiadu teitl drama Angharad ac yn mynd tan ddaear am rhai misoedd - o safbwynt cyhoeddus beth bynnag. Gwnawn hynny yn y ffydd y blodëir cynhwrf creadigol newydd o'n hadau tanddaearol fel y gallwn ail feddianu prif lwyfannau'r wlad yn 1993."[2]
Arweinwyr artistig
Nid oes manylion am unigolyn fu'n gyfrifol am yr arlwy artistig, ond mi fu'r bardd Iwan Llwyd yn 'weinyddydd' ar y cwmni, ac Elwyn Williams yng ngofal y Marchnata. Daeth Wyn Williams i ofalu am y cwmni ar gychwyn y 1990au.