James Connolly
Roedd James Connolly (Gwyddeleg: Séamas Ó Conghaile; 5 Mehefin 1868 – 12 Mai 1916) yn arweinydd llafur o Iwerddon. Ganed ef yn ardal Cowgate, Caeredin, Yr Alban, i deulu tlawd oedd wedi mewnfudo o Iwerddon. Gadawodd yr ysgol yn 11 oed, ond er hynny addysgodd ei hun nes dod yn un o feddylwyr amlycaf yr adain chwith yn ei ddydd. Yn 1882, yn 14 oed, ymunodd a'r Fyddin Brydeinig, a bu yn y fyddin am 7 mlynedd, yn gwasanaethu yn Iwerddon. Tra'r oedd yno cyfarfu a Lillie Reynolds a ddaeth yn wraig iddo yn ddiweddarach. Gadawodd y ffordd y gwelodd y fyddin yn trin pobl gyffredin Iwerddon Connolly gyda chasineb at y fyddin weddill ei oes. Bu'n gweithio fel llafurwr yng Nghaeredin a daeth yn weithgar gydag undebau llafur a chyda Phlaid Lafur Annibynnol Keir Hardie. Erbyn 1896 roedd yn Nulyn yn ysgrifennydd Cymdeithas Sosialaidd Dulyn; ffurfiodd Connolly y Blaid Weriniaethol Sosialaidd Wyddelig (Irish Socialist Republican Party neu ISRP). Bu yn yr Unol Daleithiau am gyfnod, lle bu'n weithgar gydag undebau llafur. Dychwelodd i Iwerddon, ac yn 1913 ffurfiodd yr Irish Citizen Army (ICA), byddin lafur arfog. Pwrpas y fyddin ar y cychwyn oedd amddiffyn gweithwyr a streicwyr, ond yn fuan daeth i anelu at greu gweriniaeth sosialaidd rydd yn Iwerddon. Daeth Connolly i gytundeb ag arweinwyr Brawdoliaeth Weriniaethol Iwerddon oedd hefyd yn ystyried gwrthryfel arfog, a chyfarfu Connolly â Tom Clarke ac â Padraig Pearse. Cytunwyd i weithredu dros wythnos y Pasg, 1916. Yn ystod Gwrthryfel y Pasg. a ddechreuodd ar 24 Ebrill, 1916, roedd Connolly yn un o'r prif arweinwyr. Clwyfwyd ef yn ddifrifol yn ei goes yn ystod yr ymladd. Wedi'r gwrthryfel dedfrydwyd ef i farwolaeth a saethwyd ef yng Ngharchar Kilmainham, yn eistedd mewn cadair am ei fod wedi'i glwyfo'n rhy ddrwg i sefyll. Gadawodd nifer o blant, a daeth un ohonynt, Nora Connolly-O'Brien yn adnabyddus fel awdur ac ymgyrchydd gwleidyddol. Mae cerflun o Connolly yn ninas Dulyn o flaen Liberty Hall, swyddfeydd yr undeb llafur SIPTU. Mae un o ddwy brif gorsaf reilffordd Dulyn wedi ei enwi ar ei ôl. Llyfryddiaeth
Gweler hefyd
|