Newfoundland a Labrador
Un o daleithiau Canada yw Newfoundland a Labrador (Saesneg Newfoundland and Labrador, Ffrangeg Terre-Neuve-et-Labrador) neu yn Gymraeg y Tir Newydd[1] a Labrador[2] neu y Tir Newydd a Labradôr.[2] Yn ddaearyddol, mae'r dalaith yn cynnwys ynys Newfoundland, ynghyd ag ardal sy'n ffurfio rhan o'r tir mawr, Labrador. Pan ymunodd â Chanada yn 1949, Newfoundland oedd enw'r dalaith gyfan. Ond ers 1964 cyfeirir at lywodraeth y dalaith fel Llywodraeth Newfoundland a Labrador, ac ar 6 Rhagfyr 2001 diwygiwyd Cyfansoddiad Canada er mwyn newid enw swyddogol y dalaith i Newfoundland a Labrador. Serch hynny, mae pobl yn parhau i gyfeirio'n answyddogol at y dalaith fel Newfoundland yn unig. St John's yw prifddinas a dinas fwya'r dalaith. Yn 1617 sefydlwyd gwladfa Gymreig Cambriol yn Newfoundland gan Syr William Vaughan, ond methiant fu yn y pen draw. Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|