Phillip Hughes
Cricedwr prawf ac undydd, a chwaraewr rygbi o Awstralia oedd Phillip Joel Hughes (30 Tachwedd 1988 – 27 Tachwedd 2014).[1] Bu'n chwarae mewn gemau prawf dros Awstralia o 2010 hyd at ei farwolaeth cynamserol a ddigwyddodd o ganlyniad iddo gael ei daro yn ei wddf gan bêl ar y 25ain o Dachwedd.[2] Ar ddiwrnod ei farwolaeth cafwyd nifer o deyrngedau gan gynnwys Michael Clarke capten Tîm Criced Awstralia a chan y Prif Weinidog Tony Abbott. Hughes oedd y cricedwr cyntaf erioed i sgorio cant rhediad ddwywaith o'r bron; gwnaeth hynny yn Durban yn 2009 yn erbyn De Affrica. Fe'i ganwyd ym Macksville, De Cymru Newydd, yn fab i ffermwr ac roedd ei fam yn Eidales. Roedd hefyd yn aelod o dîm Caerwrangon, yn drydydd yn y rhestr fatio, a gyda chyfartaledd o 35 rhediad mewn gemau dosbarth cyntaf a 100 mewn gemau T20 ac 83 mewn criced ODI.[3] Cyfeiriadau
|