Syria (talaith Rufeinig)
Daeth Syria yn dalaith Rufeinig wedi iddi gael ei goresgyn gan Gnaeus Pompeius Magnus yn 64 CC, wedi iddo orchfygu Mithridates. Bu ym meddiant Ymerodraeth Rhufain ac yna'r Ymerodraeth Fysantaidd am ganrifoedd, hyd nes i fyddin Islamaidd ei goresgyn yn 637. Ystyrid Syria yn dalaith o bwysigrwydd strategol, oherwydd ei ffod yn ffinio ar ymerodraeth Parthia. Cedwid tair lleng yma, ac yn 69 bu gan lengoedd Syria ran bwysig yn y digwyddiadau a wnaeth Vespasian yn ymwerawdwr. Yn 193, rhannwyd y dalaith yn Syria Coele a Syria Phoenice. Bu'n rhan o Ymerodraeth Palmyra rhwng 260 a 273. Dan yr ymerawdwr Theodosius I yn y 4g, rhannwyd Syria Coele yn Syria, Syria Salutaris a Syria Euphratensis, a rhannwyd Syria Phoenice i greu Phoenice a Phoenicia Libanesia.
|