Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)
Bardd Cymraeg oedd Thomas Jacob Thomas (13 Ebrill 1873 – 2 Rhagfyr 1945), sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Sarnicol. Roedd yn un o feirdd mwyaf poblogaidd ei gyfnod ac yn epigramydd penigamp. BywgraffiadGaned Sarnicol ym mhentref Capel Cynon, ger Llandysul, Ceredigion yn 1873. Magwyd y bardd ym mro Banc Siôn Cwilt a chafodd diwylliant Cymraeg a thraddodiadau gwerinol yr ardal honno ddylanwad mawr ar ei waith fel bardd. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac aeth yn ei flaen i fod yn athro ysgol yn Southampton yn ne Lloegr, Abergele ac Abertyleri, ac yn brifathro mewn ysgol ger Merthyr Tudful. Gwaith llenyddolYmddiddorai'n fawr yn nhraddodiadau a llên gwerin Cymru, a chyhoeddodd sawl cerdd boblogaidd sy'n seiliedig ar chwedlau Cymraeg. Cyhoeddodd ddeg cyfrol o farddoniaeth yn ystod ei oes gan ddod yn un o feirdd mwyaf poblogaidd Cymru. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Y Fenni 1913. Mae ei gerddi poblogaidd yn tueddu i fod yn rhamantaidd a sentimentalaidd braidd, ond ei brif gyfraniad i lenyddiaeth Gymraeg yw ei gerddi byr dychanol, yn enwedig y rhai a geir yn y gyfrol Blodau Drain Duon (1935), sy'n cynnwys ei epigram adnabyddus am Dic Sion Dafydd. Cyhoeddodd hefyd gyfrol o addasiadau o chwedlau gwerin ei fro, Chwedlau Cefn Gwlad. Llyfryddiaeth ddethol
Dolenni allanol |