Washington, D.C.
Prifddinas Unol Daleithiau America yw Washington, D.C. (District of Columbia: Ardal Columbia)[1]. Fe'i henwir ar ôl George Washington, ac mae'r 'DC' yn cyfeirio at ddalgylch Columbia lle lleolir y ddinas. Yn y cyfrifiad diwethaf, roedd gan y ddinas boblogaeth o 689,545 (1 Ebrill 2020)[2] - llai na dwywaith maint Caerdydd. Dyma oedd y ddinas 24ain fwyaf poblog yn yr Unol Daleithiau yn 2010. Yn sgil cymudwyr sy'n byw yn y maestrefi, cynydda boblogaeth Washington D.C. i dros filiwn yn ystod yr wythnos waith. Mae ardal ddinesig di-dor Washington Fwyaf yn ymestyn i Maryland, Virginia, a Gorllewin Virginia, ac yn cynnwys poblogaeth o bron 5,600,000. Fe'i lleolwyd ar Afon Potomac sy'n ffinio â Maryland a Virginia, a chynhaliodd y Gyngres ei sesiwn gyntaf yno ym 1800. Enwyd y ddinas ar ôl George Washington, arlywydd cyntaf yr Unol Daleithiau ac un o'r "Tadau Sylfaenol", sef sefydlwyr yr Unol Daleithiau.[3] Enwir yr ardal ffederal ar ôl Columbia, personoliad benywaidd o'r genedl (a'r enw "Columbus"), fel a welir yn y Cerflun Rhyddid (Statue of Liberty) a llawer o enwau llefydd. Fel sedd llywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau a sawl sefydliad rhyngwladol, mae'r ddinas yn brifddinas wleidyddol bwysig yn y byd.[4] Mae'n un o'r dinasoedd yr ymwelir â hi fwyaf yn yr Unol Daleithiau, gyda dros 20 miliwn o ymwelwyr yn 2016.[5][6] Mae'r ddinas wedi'i rhannu'n chwarteri (neu'n 'gwadrantau') sydd wedi'u canoli ar Adeilad y Capitol, ac mae cymaint â 131 o gymdogaethau (neighborhoods). Mae maer a etholwyd yn lleol a chyngor 13-aelod wedi llywodraethu'r ardal ers 1973. Cadwa'r Gyngres yr awdurdod goruchaf dros y ddinas a gallant wyrdroi deddfau lleol. Ethola preswylwyr D.C. un dirprwy di-bleidlais, i Dŷ'r Cynrychiolwyr, ond nid oes gan yr ardal gynrychiolaeth yn y Senedd. Mae pleidleiswyr y dosbarth (district) yn dewis tri etholwr arlywyddol yn unol â'r Trydydd Gwelliant ar hugain i Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau, a gadarnhawyd ym 1961. Lleolir tair cangen o lywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau yn yr ardal: y Gyngres (deddfwriaethol), yr arlywydd (gweithredol), a’r Goruchaf Lys (barnwrol). Mae Washington yn gartref i lawer o henebion ac amgueddfeydd cenedlaethol, wedi'u lleoli'n bennaf ar neu o amgylch y National Mall. Ceir yn y ddinas 177 o lysgenadaethau tramor yn ogystal â phencadlys llawer o sefydliadau rhyngwladol, undebau llafur, grwpiau di-elw, grwpiau lobïo, a chymdeithasau proffesiynol, gan gynnwys Grŵp Banc y Byd, y Gronfa Ariannol Ryngwladol, Sefydliad Taleithiau America, yr AARP, y Gymdeithas Ddaearyddol Genedlaethol, yr Ymgyrch Hawliau Dynol, y Gorfforaeth Cyllid Rhyngwladol, a Chroes Goch America. HanesRoedd amryw o lwythau o'r brodorion Piscataway, sy'n siarad Algonquian, (a elwir hefyd yn Conoy) yn byw yn y tiroedd o amgylch Afon Potomac pan ymwelodd Ewropeaid â'r ardal am y tro cyntaf, ar ddechrau'r 17g. Roedd un grŵp o'r enw Nacotchtank (a elwir hefyd yn Nacostines gan genhadon Catholig) yn preswylio o amgylch Afon Anacostia yn Ardal Columbia heddiw. Oherwydd goresgyniad treisiol y gwladychwyr Ewropeaidd ffpd y brodorion Piscataway, a sefydlodd rhai ohonynt anheddiad newydd ym 1699 ger y fan a elwir heddiw yn Point of Rocks, Maryland.[7] Pwysleisiodd Gwrthryfel Pennsylvania yn 1783 yr angen i'r llywodraeth genedlaethol beidio â dibynnu ar unrhyw wladwriaeth er ei diogelwch ei hun.[8] Mae Erthygl Un, Adran Wyth, o'r Cyfansoddiad yn caniatáu sefydlu "Dosbarth (heb fod yn fwy na deng milltir sgwâr) a all ddod yn sedd llywodraeth yr Unol Daleithiau".[9] SefydluAr 9 Gorffennaf 1790, pasiodd y Gyngres y Ddeddf Breswylio, a gymeradwyodd greu prifddinas genedlaethol ar Afon Potomac. Roedd yr union leoliad i'w ddewis gan yr Arlywydd George Washington, a lofnododd y bil yn gyfraith ar 16 Orffennaf. Wedi'i ffurfio o dir a roddwyd gan daleithiau Maryland a Virginia, roedd siâp cychwynnol yr ardal ffederal yn sgwâr a oedd yn mesur 10 milltir (16 km ) ar bob ochr, cyfanswm o 100 milltir sgwâr (259 km2).[10] Yn ystod 1791–92, bu tîm o dan Andrew Ellicott, gan gynnwys y brodyr Ellicott Joseph a Benjamin a’r seryddwr Affricanaidd-Americanaidd Benjamin Banneker, yn arolygu ffiniau’r ardal ffederal a gosodwyd cerrig terfyn ar bob pwynt milltir. Yn 2021, roedd llawer o'r cerrig yn dal i sefyll.[11][12] Adeiladwyd dinas ffederal newydd ar lan ogleddol y Potomac, i'r dwyrain o Georgetown. Ar 9 Medi 1791, enwodd y tri chomisiynydd a oedd yn goruchwylio adeiladu'r brifddinas y ddinas er anrhydedd i'r Arlywydd Washington. Yr un diwrnod, enwyd yr ardal ffederal yn Columbia (ffurf fenywaidd o "Columbus"), a oedd yn enw barddonol ar gyfer yr Unol Daleithiau ac a oedd yn cael ei ddefnyddio'n gyffredin bryd hynny.[13][14] Cynhaliodd y Gyngres ei sesiwn gyntaf yno ar 17 Tachwedd 1800.[15][16] Atyniadau
|