Winnie Madikizela-Mandela
Roedd Winnie Madikizela Mandela (ganed Nomzamo Winifred Zanyiwe Madikizela; 26 Medi 1936 – 2 Ebrill 2018)[1] a adnabyddwyd yn gyffredinol fel Winnie Mandela yn actifydd a gwelidydd gwrth-apartheid De Affricanaidd. Daliodd nifer o rolau mewn llywodraeth, gan gynnwys swydd fel Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Diwylliant, Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Fel aelod o blaid y Gyngres Genedlaethol Affricanaidd, gwasanaethodd ar ei Phwyllgor Gweithredol Cenedlaethol yn ogystal â bod yn bennaeth ar ei Chynghrair i Ferched. Ganwyd i deulu Xhosa yn Bizana yn, fel a elwir ar y pryd, Undeb De Affrica ac aeth yn ei blaen i astudio gwaith cymdeithasol yn Ysgol Jan Hofmeyr. Yn 1958, priododd yr actifydd gwrth-apartheid Nelson Mandela yn Johannesburg; parodd eu priodas am 38 mlynedd a chawsant ddau o blant gyda'i gilydd. Yn 1963, carcharwyd Mandela yn dilyn y Treial Rivonia a daeth Madikizela-Mandela yn wyneb i'w gŵr tra'r oedd dan glo am 27 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, daeth i amlygrwydd o fewn y mudiad gwrth-apartheid yn ei gwlad. Fe'i harestiwyd a fe'i chadwyd gan wasanaethau diogelwch y wladwriaeth nifer o weithiau a threuliodd rhai misoedd mewn carchariad unigol. Yn y 1980au, pan oedd yn byw yn Soweto, cefnogodd Madikizela-Mandela ymddygiad treisgar; gan gynnwys gyddfgadwynu yn erbyn hysbyswyr i'r heddlu honedig a chydweithredwyr gyda llywodraeth y Blaid Genedlaethol. Cynhaliodd ei gwasanaeth diogelwch, Clwb Pêl-droed Mandela Unedig, nifer o weithredoedd, gan gynnwys herwgipio, arteithio a llofruddiaeth ac yn fwyaf enwog, lladd Stompie Moeketski, bachgen oedd yn ei arddegau. Rhyddhawyd Nelson Mandela o'r carchar ar 11 Chwefror 1990 a gwahanodd y cwpl yn 1992; yn ysgaru'n ffurfiol ym mis Mawrth 1996. Cadwasant mewn cysylltiad, ac ymwelodd ag ef pan oedd yn sâl y nes ymlaen yn ei fywyd. Fel uwch-ffigwr yn y Gyngres Genedlaethol Affricanaidd, chwareodd rhan yn llywodraeth ôl-apartheid y blaid, ond fe'i diswyddwyd yn dilyn honiadau o lygredd.[2] Cyfeiriadau
|