Ymerodraeth Awstria
Gwladwriaeth amlgenhedlig yng Canolbarth Ewrop a fodolai o 1804 i 1867 oedd Ymerodraeth Awstria (Almaeneg Awstria: Kaiserthum Oesterreich; Almaeneg Modern: Kaisertum Österreich) a oedd yn un o'r pwerau mawrion yng nghyfnod Cytgord Ewrop. Sefydlwyd drwy broclamasiwn ar 11 Awst 1804 gan Ffransis II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, a ddatganodd ei hun yn Ffransis I, Ymerawdwr Awstria. Fe'i crëwyd drwy uno tiriogaethau'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd, a pharhaodd Awstria yn un o daleithiau'r Ymerodraeth Lân Rufeinig nes 1806 pryd diddymwyd yr ymerodraeth gan Napoleon I, ymerawdwr Ffrainc. Yn sgil Cynhadledd Fienna (1815), ymunodd Awstria â Chydffederasiwn yr Almaen, ac Awstria a Phrwsia oedd dwy brif aelod-wladwriaeth yr hwnnw. Ymerodraeth Awstria oedd yr ymerodraeth drydedd fwyaf yn Ewrop yn nhermau poblogaeth – ar ôl Ymerodraeth Rwsia a Theyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon – ac yn nhermau arwynebedd, ar ôl Rwsia ac Ymerodraeth Gyntaf Ffrainc. Cydnabuwyd lled-annibyniaeth Teyrnas Hwngari yn Regnum Independens, a chafodd Hwngari ei llywodraethu gan sefydliadau ar wahân. Yn sgil trechu Awstria yn Rhyfel Awstria a Phrwsia (1866), cytunwyd ar gyfaddawd (Almaeneg: Ausgleich, Hwngareg: Kiegyezés) yn 1867 i sefydlu brenhiniaeth ddeuol Awstria-Hwngari. |