Yng ngwaith diweddaraf Paul Cézanne, a arddangoswyd ym Mharis rhwng 1905 a 1907, ceisiodd gyfleu ffurfiau mewn tri-dimensiwn. Datblygwyd syniadaeth Cézanne gan y Ciwbwyr cynnar a oedd am edrych o'r newydd ar un o broblemau peintiwr trwy hanes - sut gorau i gyfleu'r byd go iawn sydd a sawl-dimensiwn ar gynfas fflat, un-dimensiwn?[4]
Mewn celf Giwbaidd mae elfennau'n cael eu dadansoddi, eu torri ar wahân ac yn ail ffurfio'n haniaethol. Yn lle portreadu'r elfennau o un safbwynt yn uing, roedd y Ciwbwyr yn eu dangos o sawl safbwynt er mwyn eu cyfleu'n eu cyfanrwydd.[5]
Effaith rhyngwladol
Roedd effaith Ciwbiaeth yn bellgyrhaeddol, gan ledu ar draws y byd a datblygu ymhellach wrth i'w dylanwad ymledu ac ehangu.[6]
Mae gwaith cynnar y Dyfodoliaeth(Futurism) hefyd yn ceisio cyfuno mwy nag un safbwynt – yn yr achos yma gwahanol safbwyntiau amseroedd wrth iddynt bortreadu cyflymdra'r symudiad.[7]
Oriel
Lyubov Popova, Model yn Sefyll,1913
Juan Gris, Botel o Anis, 1914
Maria Blanchard, Merch gyda gitâr, 1917
Robert Delaunay, Ffenestri Cyd-amserol ar Ddimas, 1912