Euros Bowen
Bardd Cymraeg a chyfieithydd oedd Euros Bowen (12 Medi 1904 – 2 Ebrill 1988).[1] Fe'i hystyrir yn un o feirdd Cymraeg mwyaf yr 20g. BywydFe'i ganwyd yn Nhreorci, yn frawd i'r prifardd Geraint Bowen. Mynychodd Goleg Presbyterian Caerfyrddin,[2] cyn mynd ymlaen i Brifysgol Aberystwyth, Coleg Mansfield a Coleg y Santes Catrin, Rhydychen. Daeth yn offeiriad Anglicanaidd yn Llanygywer, Penllyn, ac yna'n Rheithor Llanuwchllyn yn yr hen Sir Feirionnydd. BarddoniaethEnillodd Euros Bowen y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pen-y-bont ar Ogwr 1948 am bryddest 'O'r Dwyrain' ac eto ym 1950 gyda 'Difodiant'. Cyhoeddodd ei gyrfol gyntaf Cerddi yn 1958. Roedd Euros Bowen yn hoffi gwahaniaethu rhwng dau ddull o farddoni, sef 'cerdd gyfathrach' a 'cerdd gyflwyniad'. Mewn cerddi cyfathrach mae'r bardd yn ei fynegi ei hun yn eithaf uniongyrchol, gan ychwanegu delweddau fel addurn. Mewn cerdd gyflwyniad mynegir y cyfan trwy ddelweddau, y delweddau yw hanfod y dweud. Yn ôl Euros Bowen cerddi cyflwyniad yw ei gerddi ef. Mae hynny'n esbonio pam fod rhai yn ei gyhuddo o fod yn fardd 'tywyll' neu 'astrus'. Ond mynnai'r bardd fod math arbennig o eglurder yn perthyn i gerdd gyflwyniad. ac y dylai'r darllenydd ymateb i'r berthynas rhwng delweddau. Mynnai Euros Bowen ei hun fod ;modd gwerthfawrogi a mwynhau cerdd heb ei "deall" yn iawn'. Bardd a oedd yn arddel y ffydd Gristnogol oedd Euros Bowen; a gweledigaeth gadarnhaol a gyhoeddir yn ei gerddi. Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
Information related to Euros Bowen |