Pontardawe
Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Pontardawe.[1][2] Llifa'r Afon Tawe trwy ganol y dref, a enwir ar ôl y bont dros yr afon honno. Mae'r Afon Clydach Uchaf hefyd yn llifo trwy'r dre cyn ymuno â'r Tawe, ac mae rhan o Gamlas Abertawe (sydd pellach yn segur) i'w ganfod yno. Mae'n gartref i tua 5,000 o drigolion[3], gan ymestyn i mewn i bentrefi cysylltiedig Trebannws, Ynysmeudwy, Alltwen a Rhyd-y-fro. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur)[4] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[5] HanesDechreuodd hanes Pontardawe fel croesffordd llwybrau porthmyn, un yn arwain o Abertawe i Aberhonddu a'r llall o Gastell-nedd i Landeilo.[3] Recordiwyd yr enw ar fap am y tro cyntaf ym 1729, fel "Pont-ar-Dawye", yn New and Accurate Map of South Wales Emmanuel Bowen. Erbyn 1796, roedd Camlas Abertawe wedi cysylltu Pontardawe â dociau Abertawe. Galluogodd hygyrchedd y gamlas ddatblygiad diwydiant yn yr ardal, a ddechreuodd â gwaith haearn Ynysderw ym 1835. Gerllaw'r gwaith haearn, daeth tunplat a gwaith dur yn sylfaen i ddatblygiad y dref. Datblygodd William Parsons, diwydiannwr o Gastell-nedd, y diwydiant cynnar, cyn i deulu'r Gilbertsons o 1861 ymlaen ddod yn brif berchnogion y dref. Yn ogystal â gwaith metel, roedd sawl pwll glo yn yr ardal a diwydiant crochenwaith yn Ynysmeudwy. O 1861 ymlaen, cysylltodd Rheilffordd Abertawe Pontardawe â gweddill y cwm tan ei ddad-gomisiynu yn 1964. Yn 1862, gorffennwyd adeiladu Eglwys Saint Pedr, a ariannwyd gan Mr Parsons.[6] Yn ogystal â'i bensaernïaeth anghyffredin Ffrengig, mae'r Eglwys hyd at heddiw yn un o brif nodweddion y dref. Ers 1978, cynhaliwyd Gŵyl Pontardawe am benwythnos ym mis Awst bob blwyddyn - gŵyl sy'n fwrlwm o berfformiadau cerddorol, traddodiadol a rhyngwladol. Cyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9][10] Yr iaith GymraegYn ôl cyfrifiad 2001, roedd gan 1,995 o drigolion y dref (neu 40.9% o'i phoblogaeth) y gallu i siarad, darllen neu ysgrifennu yn Gymraeg.[3] Dyma ganran sydd llawer uwch na chyfartaledd Cymru gyfan (23.5%) ac mae'r fwrdeistref yn gyffredinol yn cynnwys 20.3% o siaradwyr Cymraeg. Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe yn darparu addysg gynradd trwy gyfrwng y Gymraeg yn y dre. Canolfan Gymraeg y dre a’r Cwm yw Ty Gwrhyd. Mae cyrsiau (gan Acadami Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe) a gweithgareddau ar gael i ddysgwyr ac i Gymry Cymraeg. Mae siop Cymraeg ar agor dyddiau Llun, Mercher, Gwener a bore dydd Sadwrn. Mae swyddfeydd Menter Iaith Castell nedd Port Talbot yn y ganolfan. Cysylltiadau rhyngwladolMae Pontardawe wedi'i gefeillio â: Enwogion
Cyfeiriadau
Llyfryddiaeth
Dolen allanol
Trefi a phentrefi
Trefi |