Margam
Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Margam. Fe'i lleolir ger Port Talbot yn agos i gyffordd 39 o draffordd yr M4. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Stephen Kinnock (Llafur).[2] Hanes![]() ![]() Roedd Margam yn gymuned hynafol Gymreig ac arferai fod yn rhan o gwmwd Tir Iarll. Yn wreiddiol cawsai ei ddominyddu gan Abaty Margam, tŷ cefnog y Sistersiaid a sefydlwyd ym 1147. Pan ddiddymwyd yr abatai, daeth yr abaty i feddiant y teulu Mansel a dilynwyd hwy gan eu disgynyddion benywaidd, y teulu Talbot a oedd yn gangen o deulu Iarll Amwythig. Parhaodd eglwys y plwyf i weithredu o gorff Abaty Margam, ac mae'n parhau i wneud hynny o hyd. Mae Castell Margam yn cynnwys adfeilion o'r Chapter House a chofgolofnau mawrion o'r 17eg a'r 18g. Yn yr Amgueddfa Gerrig ceir tystiolaeth bwysig am ddyfodiad Cristnogaeth cynnar i'r ardal. Gyda dyfodiad y chwyldro diwydiannol, daeth plwyf Margam yn bwysig am ddau reswm. Yn gyntaf, roedd yno harbwr da a ddatblygwyd yn ddiweddarach i fod yn Bort Talbot. Rhoddwyd yr enw iddo fel teyrnged i un o ysweiniaid Margam. Yn ail, roedd yno gyflenwad o lo a gwelwyd datblygiad sylweddol yn y diwydiant glo ar ddiwedd y 18g. Golygodd y cyfuniad o lo a thrafnidiaeth effeithiol o'r harbwr bod Margam wedi chwarae rhan bwysig yn nhirwedd diwydiannol De Cymru. Yn wreiddiol, trigai gweithwyr y pyllau glo i ffwrdd o bentref Margam ei hun, yn fwyaf amlwg ym mhentref Taibach. Wrth i amser fynd yn ei flaen, fodd bynnag, datblygodd y plwyf i gyd i fod yn gymuned o weithwyr diwydiannol. Yn sgîl hyn, datblygodd Margam i fod yn un o faesdrefi Port Talbot ac mae'n parhau felly tan heddiw. Serch hynny, nid oedd tiroedd Abaty Margam wedi eu cynnwys yn niwydiannu a threfoli Margam. Cafodd yr Abaty eu cynnwys gan y teulu Talbot yn nhiroedd eu plasdy, Castell Margam gerllaw. Difrodwyd y plasdy yn ddifrifol ar ddiwedd yr 20g ond mae bellach yn cael ei adnewyddu. Yn ystod y 18g, roedd y teulu Talbot wedi adeiladu'r orendy mwyaf yn Ewrop a saif yr adeilad yno o hyd. Yng ngahnol yr 20g, gwerthwyd holl dir y teulu Talbot ac mae'r tir hwnnw bellach yn rhan o Barc Gwledig Margam. Mae'r tir yn ymestyn dros rhyw 850 erw (340 ha) a chaiff ei reoli gan y cyngor lleol. Ar ddechrau'r 20g, daeth Margam yn gweithfeydd pwysig i British Steel a daeth y tyrrau oeri yn arwyddnod lleol. Cawsant eu dymchwel ym mis Tachwedd 2003 yn sgîl gor-gynhyrchu yn Ewrop. Cyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6] Cyfeiriadau
Gweler hefyd
Trefi a phentrefi
Trefi |