Theodore Roosevelt
Arlywydd yr Unol Daleithiau rhwng 14 Medi 1901 a 3 Mawrth 1909 oedd Theodore Roosevelt, Jr. (27 Hydref 1858 – 6 Ionawr 1919), neu T.R. neu Teddy. Mae'r tegan meddal ar ffurf arth, y tedi bêr, yn tarddu o enw Theodore Roosevelt ym 1902.[1] Teulu a bywyd cynnarGaned Theodore Roosevelt Jr. ar 27 Hydref 1858 yn nhŷ rhif 28, East 20th Street, Dinas Efrog Newydd, yn fab i Theodore Roosevelt Sr. a Martha (Bulloch).[2] Disgynnai'r teulu Roosevelt o Klaes Martenszen van Rosenvelt, a ymfudodd i Amsterdam Newydd ym 1649.[3] Yr unig berthynas ar ochr ei dad nad oedd o dras Iseldiraidd oedd ei nain, a oedd yn Grynwraig o linach Gymreig, Seisnig, Gwyddelig, Sgot-Wyddelig, ac Almaenig. Ar ochr ei fam, disgynnai o fewnfudwyr Albanaidd a Hiwgenotiaid.[4] Teulu cefnog a gwaraidd oedd y Roosevelts, ac ymdrechodd Theodore yr hynaf a Martha i ddarparu addysg dda a phrofiadau diwylliedig i siapio meddwl a chymeriad eu plant. Ym 1869–70, aethant ar "Daith Fawr" i Ewrop, gan ymweld â Phrydain, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, yr Almaen, Ffrainc, y Swistir, yr Eidal, ac Awstria. Yn Rhufain, cyfarfu Theodore â'r Pab Pïws IX.[5] Derbyniodd Theodore wersi gan diwtor preifat yn yr ieithoedd Ffrangeg, Almaeneg, a Lladin.[6] Er yr oedd yn ddisgybl deallus, bachgen gwan oedd Theodore, ac ar anogaeth ei dad fe gychwynnodd ar raglen o addysg gorfforol er mwyn cryfhau ei gorff a gwella ei iechyd. Siapiodd ei gyhyrau gyda phwysau yn Wood's Gymnasium, ac yn 13 oed dechreuodd hyfforddi paffio.[7][8] Yn Hydref 1872, dychwelodd y teulu i Ewrop, a theithiant hefyd i'r Aifft, Palesteina, Syria, Twrci, a Gwlad Groeg.[8] Treuliant ddeufis yng ngaeaf 1872–73 yn hwylio ar hyd Afon Nîl ar gwch dahabeah.[9] Penderfynodd y rhieni adael Theodore, ei frawd Elliott, a'i chwaer Corrinne yn Dresden am bum mis ym 1873 er mwyn astudio'r Almaeneg a'r Ffrangeg yn drylwyr, cyn iddynt ddychwelyd i'r Unol Daleithiau.[10] Cafodd ei diwtora ar gyfer arholiadau mynediad Prifysgol Harvard gan Arthur Cutler, a'i dderbyn i Harvard ym 1876. Yn y cyfnod hwn, symudodd y teulu i gartref newydd yn rhif 6 West 57th Street, gyda campfa ar y llawr uchaf ac amgueddfa yn y nenlofft er difyrrwch Theodore.[11] Yn ystod ei flynyddoedd yn y brifysgol, bu Theodore yn ymwneud â nifer fawr o weithgareddau a diddordebau: cadwodd anifeiliaid yn ei ystafell a bu'n arfer dyrannu a thacsidermi; mynychodd sesiynau darllen barddoniaeth, gwersi dawnsio, perfformiadau prynhawn, partïon theatr a dawnsfeydd; parhaodd i baffio, ymgodymu, corfflunio, a hela yn ei amser rhydd; a gwirfoddolodd i fod yn athro ysgol Sul.[12] Ymaelododd â nifer o gymdeithasau, gan gynnwys yr Hasty Pudding Club, un o brif gymdeithasau myfyrwyr Harvard; y clwb chwist; Cymdeithas Byd Natur Harvard; Clwb Adaregol Nuttall; y Clwb Arianneg; a'r Institute of 1770, cymdeithas siarad a oedd yn gysylltiedig â'r Hasty Pudding.[13] Yn ei flwyddyn olaf, yn nhymor yr hydref 1878, cafodd ei dderbyn i'r Porcellian Club; wedi iddo or-yfed alcohol yn ystod ei ynydu, addawodd Roosevelt na fyddai byth eto yn meddwi, ac mae'n debyg iddo gadw'r adduned honno am weddill ei oes.[14] FfynonellauCyfeiriadau
Llyfryddiaeth
Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
|