Zaha Hadid
Pensaer Iracaidd-Prydeinig oedd y Fonesig Zaha Mohammad Hadid, DBE (Arabic: زها حديد Zahā Ḥadīd; 31 Hydref 1950 – 31 Mawrth 2016)[1] Yn 2004, hi oedd y benyw cyntaf i dderbyn Gwobr Pensaernïaeth Pritzker.[2] Derbyniodd Wobr Stirling yn 2010 a 2011.[2] Yn 2014 enillodd wobr Dyluniad y Flwyddyn gan yr Amgueddfa Ddylunio am ei dyluniad o Ganolfan Ddiwylliannol Heydar Aliyev, gan ei wneud y benyw cyntaf i ennill y brif wobr yn y gystadleuaeth honno.[2] Yn 2015 hi oedd y benyw cyntaf i ennill Medal Aur RIBA yn ei rhinwedd ei hun.[2] Mae ei adeiladau yn nodweddiadol neoddyfodolaidd, wedi ei nodweddu gan "powerful, curving forms of her elongated structures"[3] gyda "multiple perspective points and fragmented geometry to evoke the chaos of modern life".[4] Yn fwyaf diweddar roedd hi'n Athro ym Mhrifysgol y Celfyddydau Cymhwysol Vienna yn Austria.[5] Bywyd ac addysgGanwyd Hadid ar 31 Hydref 1950 yn Baghdad. Fe'i magwyd mewn adeilad oedd un o'r cyntaf yn Baghdad i gael ei ysbrydoli gan fudiad Bauhaus mewn cyfnod lle roedd "moderniaeth yn golygu swyn a meddwl blaengar" yn y Dwyrain Canol.[3] Astudiodd fathemateg ym Mhrifysgol Americanaidd Beirut cyn symud i astudio yn Ysgol Bensaernïaeth y Gymdeithas Bensaernïol yn Llundain, lle cyfarfu Rem Koolhaas, Elia Zenghelis, a Bernard Tschumi. Gweithiodd i'w cyn-athrawon, Koolhaas and Zenghelis, yn Swyddfa am Bensaernïaeth Prifddinesig, yn Rotterdam, yr Iseldiroedd; a daeth yn bartner yn 1977. Trwy ei chysylltiad â Koolhaas, cyfarfu Peter Rice, peiriannydd a'i chefnogodd ac anogodd ar adeg pan oedd ei gwaith yn ymddangos yn anodd. Yn 1980, sefydlodd ei cwmni ei hun yn Llundain. Yn ystod yr 1980a bu'n dysgu hefyd yn y Gymdeithas Bensaernïol. Enillodd Hadid y gystadleuaeth i ddylunio Tŷ Opera Bae Caerdydd, ond bu ffrae a chafodd y cynllun ei newid. Bu farw Hadid o drawiad ar y galon mewn ysbyty yn Miami, ar 31 Mawrth 2016, lle roedd yn cael ei thrin am broncitis.[1] Roedd hi wedi cael ei derbyn fel dinesydd o'r Deyrnas Unedig.[6][7] Yn 2012, fe'i gwnaed yn Fonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig.[2] Dolenni allanol
Llyfryddiaeth
GwaithCyfeiriadau
|