Cefn Meiriadog
Pentref bychan a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Cefn Meiriadog. Daw’r enw o enw'r bryn gerllaw. Saif yn nyffryn Afon Elwy, tua pum milltir i'r de-orllewin o dref Llanelwy, a heb fod ymhell o Ogof Bontnewydd, lle cafwyd hyd i rai o weddillion dynol hynaf yng Nghymru. Ceir beddrod o'r cyfnod Neolithig gerllaw. Dywedir i'r fan gael ei henwi ar ôl Meiriadog, sant o’r 5g. Ceir ffynnon yno, Ffynnon Fair, y credid ar un adeg ei bod yn medru iachau clwyfau. Bu'r bardd Siôn Tudur (1522 – 1602) yn byw ym Mhlas Wigfair gerllaw. Eglwys y Santes Fair, CefnTua 300 metr i'r de-ddwyrain o'r gaer 'Bryn y Cawr' ar Fryn Meiriadog saif eglwys fechan y Santes Fair, sy wedi'i chofrestru'n adeilad Gradd II.[1] Cafodd y cerrig eu cloddio o dir lle saif yr eglwys; fe'i hagorwyd a chysegrwyd yr eglwys ar 3 Medi 1864 gan yr Esgob Short, Llanelwy. Crëwyd y plwyf newydd "Cefn" ar 7 Chwefror 1865. Roedd yn cynnwys y ddwy drefgordd: Wigfair a Meiriadog (y ddwy yn Sir Ddinbych), a oedd tan hynny wedi bod ym mhlwyf Llanelwy.
Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Dinas Information related to Cefn Meiriadog |