Sir Ddinbych
![]() ![]() Sir yng ngogledd Cymru yw Sir Ddinbych (Saesneg: Denbighshire). Mae'n ffinio â Gwynedd a Chonwy i'r gorllewin, Sir y Fflint a Wrecsam i'r dwyrain, a Phowys i'r de. Mae'r sir bresennol yn llawer llai na'r hen sir (gweler isod) ac yn cynnwys rhan o'r hen Sir y Fflint. Lleolir pencadlys y cyngor sir yn nhref Dinbych.
HanesCeir olion pwysig o gyfnod Oes y Cerrig yn y diriogaeth a adwaenir fel Sir Ddinbych heddiw a ddarganfuwyd yn Ogof Bontnewydd ac yn Ogofâu Cae Gwyn a Ffynnon Beuno. Yn Oes yr Haearn codwyd sawl bryngaer, yn cynnwys Penycloddiau, Moel Fenlli a Moel Arthur. Roedd yr ardal yn rhan o diriogaeth llwyth y Deceangli, un o lwythau Celtaidd Cymru. Goresgynnwyd y Deceangli gan y Rhufeiniaid yn 48 OC ac am bedair canrif bron rheolwyd yr ardal gan Rufain. Ond parhaodd y gyfundrefn frodorol i raddau hefyd, ac yn y cyfnod ôl-Rufeinig daw teyrnas Rhos, a oroesoedd fel cantref canoloesol, i'r amlwg. Dyma 'Oes y Seintiau'. Yr enwocaf o seintiau'r ardal yw Cyndeyrn, a gysylltir â Llanelwy ond sydd hefyd yn nawddsant Glasgow yn yr Alban. Yn yr Oesoedd Canol roedd yr ardal yn rhan o'r Berfeddwlad. Bu dan reolaeth teyrnas Gwynedd, fel rhan o Wynedd Is Conwy, am gyfnodau hir yn yr Oesoedd Canol. Dyma'r cyfnod pan godwyd adeiladau eglwysig fel Abaty Glyn y Groes a chofebion fel Piler Eliseg. Codwyd sawl castell gan y Cymry hefyd, e.e. Tomen y Rhodwydd. Yn dilyn goresgyniad Tywysogaeth Cymru gan y Saeson yn 1282-1283, rhanwyd yr ardal rhwng arglwyddi'r Mers; y mwyaf o'r arglwyddiaethau hyn oedd Arglwyddiaeth Dinbych. Cafodd yr hen Sir Ddinbych ei chreu yn 1536. Parhaodd fel sir weinyddol hyd adrefnu llywodraeth leol yn 1972. Roedd yn ffinio â Sir Gaernarfon a Sir Feirionnydd i'r gorllewin, Sir Drefaldwyn i'r de, a Sir y Fflint, a Sir Gaer a Swydd Amwythig (y ddwy olaf yn Lloegr) i'r dwyrain. Daeth yn rhan o sir Clwyd. Pan ad-drefnwyd llywodraeth leol unwaith eto, yn 1996, diddymwyd Clwyd fel sir weinyddol a chrëwyd y Sir Ddinbych bresennol, sy'n llai na'r hen sir o'r un enw ac yn cynnwys rhan o'r hen Sir y Fflint. DaearyddiaethDyffryn Clwyd yw asgwrn cefn y sir, gyda Bryniau Clwyd yn ffin rhyngddo â'r dwyrain ac yn weladwy amlwg o bob rhan, bron, o'r sir. Llifa Afon Clwyd i lawr trwy'r dyffryn o'r bryniau i'r arfordir lle ceir gwastadedd isel Morfa Rhuddlan. Ceir cryn wahaniaeth daearyddol, diwylliannol a gwleidyddol rhwng yr arfordir honno a rhannau isaf Dyffryn Clwyd, sy'n tueddu i fod yn Seisnigedig i gryn raddau, yn arbennig o gwmpas Y Rhyl a Phrestatyn, a'r de sy'n llawer mwy gwledig a Chymreig o ran iaith a phoblogaeth. Llynnoedd ac afonyddCymharol ychydig o lynnoedd sydd yn y sir. Maent yn cynnwys: Afon Clwyd yw'r brif afon yn y sir. Llifa Afon Dyfrdwy trwy ran ddeheuol y sir. Ceir sawl afon arall, yn cynnwys Afon Alwen, Afon Ceirw, Afon Elwy, Afon Gele ac Afon Ystrad. BryniauBryniau Clwyd yw'r gadwyn o fryniau canolig eu huchder yng ngogledd-ddwyrain Cymru sy'n ymestyn o gyffiniau Llandegla-yn-Iâl yn y de i gyffiniau Prestatyn yn y gogledd, gan gyrraedd ei phwynt uchaf gyda Moel Famau. CymunedauRhennir y sir yn sawl cymuned: TrefiY prif drefi yw: Cestyll
Oriel
Dolen allanol
Trefi a phentrefi
Dinas
Information related to Sir Ddinbych |